Roedd cyflafan Port Arthur rhwng 28 Ebrill a 29 Ebrill 1996 yn saethu torfol lle lladdwyd 35 o bobl a 25 eu hanafu ym Mhort Arthur, Tasmania. Plediodd y saethwr, Martin Bryant, yn euog i 35 o ddedfrydau oes heb y posibilrwydd o barôl. Achosodd y saethu newidiadau mawr i gyfraith gwn yn Awstralia.[1] Y saethu oedd y mwyaf marwol yn hanes Awstralia a'r ail saethu mwyaf marwol a gyflawnwyd gan Awstraliad (ar ôl saethu mosg Christchurch yn Seland Newydd).